Croeso

Croeso i gyfeiriadur Neuaddau Sir Gâr sy’n rhoi manylion y neuaddau cymunedol rhagorol sydd ar gael i’w llogi yn Sir Gâr, a’u lleoliadau.

Carmarthenshire Halls

Dyma brif nodweddion yr wybodaeth sydd i’w chael yma:

  • map o’r lleoliad gyda chyfarwyddiadau
  • manylion cyswllt er mwyn gwneud trefniadau
  • hygyrchedd pob lleoliad
  • yr adnoddau a’r cyfarpar sydd ar gael yn y lleoliadau, a
  • digwyddiadau rheolaidd sy’n cymryd lle yn y neuaddau.

Dod o hyd i neuaddau a gweithgareddau:

  • dewiswch neuadd o’r rhestr ar yr ochr chwith
  • defnyddiwch y ffurflen Chwilio ar ben y dudalen i chwilio am neuaddau a gweithgareddau o fewn pellter derbyniol i’ch cartref; mae’r nodwedd hon hefyd yn eich galluogi i ddod o hyd i gyfarwyddiadau o’ch lleoliad i’r neuadd
  • neu defnyddiwch y map isod.

Os ydych yn aelod o bwyllgor neuadd ac os hoffech i’ch neuadd gael ei chynnwys yn y cyfeiriadur hwn, defnyddiwch y dudalen Ychwanegu Neuadd i ychwanegu’r neuadd eich hun neu cysylltwch â ni. Mae’r wefan yn ffordd effeithiol o hyrwyddo’r cyfleusterau a gweithgareddau sydd ar gael yn eich cymuned leol.

 

Os ydych yn byw mewn cymuned, neu wedi symud yno’n ddiweddar, bydd y wefan hon yn rhoi gwybodaeth ichi am yr holl weithgareddau cymdeithasol, iechyd a llesiant a gweithgareddau dysgu ar gyfer pob oed sydd ar gael mewn trefi a phentrefi ar hyd a lled y sir. Efallai hefyd yr hoffech ddechrau grŵp gweithgaredd eich hun, a bydd gwybod pa leoliadau ac adnoddau sydd ar gael yn eich helpu i ddod o hyd i’r lleoliad iawn ar gyfer eich digwyddiadau.

 

Chwilio am wasanaethau yn eich cymuned - infoengine

 

Datblygwyd y cyfeiriadur gan Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gâr mewn partneriaeth â Chyngor Sir Gâr