Llangain - Neuadd Goffa, Llangain

Llangain - Neuadd Goffa, Llangain

Saif Llangain ar lannau’r Afon Tywi, ac mae ffiniau’r plwyf yn ymestyn bron o Dre-Ioan i Lansteffan i un cyfeiriad, ac o Langynog hyd at yr afon i'r cyfeiriad arall. Mae’r plwyf hwn, sy’n cynnwys bron i 3,000 o erwau, yn gyfuniad o gefn gwlad godidog, coetiroedd ysblennydd a bryniau gwyrddlas sy'n cyrraedd 350tr/105m (Pwynt Trig).
Mae NODAU TIR yn cynnwys CASTELL MOEL, cartref o’r Oesoedd Canol hwyr uwchben y cornel siarp ar y B4312 (Caerfyrddin i Lansteffan); FERNHILL, maenordŷ o’r Ddeunawfed Ganrif gynnar, sy'n adnabyddus fel y man lle’r arferai’r bardd enwog Dylan Thomas dreulio ei wyliau haf pan yn blentyn.  Cafodd y tŷ ei anfarwoli yn un o’i gerddi enwocaf o’r un enw ac yn y stori fer o'r enw ‘The  Peaches’;  capel annibynnol SMYRNA (1835) ar ben y bryn a'r groesffordd adnabyddus gerllaw; EGLWYS SANTES CAIN (1871) yn nythu rhwng bryniau mwyn ar ddiwedd Heol y Llan; PANTYDDERWEN, bwthyn a oedd ar un adeg yn Swyddfa Bost, siop losin, cwrs golff 9 twll ac sydd bellach yn dafarn.




Y Neuadd

Adeiladwyd NEUADD GOFFA LLANGAIN A’R CYLCH ym 1963, am £7,000, ar dir a roddwyd gan Mr Tom Roberts o (Fferm) Penycoed. Y Pensair oedd Berwyn Thomas A'i Bartneriaid o Gaerdydd, a'r adeiladwr oedd D. Geo Lewis A’i Fab o Stryd y Priordy yng Nghaerfyrddin.

Agorwyd y neuadd yn swyddogol ar ddydd Gwener, 3 Ebrill, 1964. Dadorchuddiwyd y llechen goffa, gydag enwau'r rheiny a laddwyd yn y ddau Ryfel Byd arni, gan Mrs May Davies, chwaer yr Is-gorporal Willie Davies o Gastell Moel, a fu farw o’i glwyfau ar y 23ain o Fawrth 1918 yn 20 oed.

Estynnwyd ac adnewyddwyd yr adeilad yn ddiweddar i gynnwys mynediad i’r anabl, diolch i Fwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol a chymwynaswyr eraill. Mae gan y neuadd system sain hefyd, diolch i gymorth gan Fwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol.
Adeiladwyd yr estyniad fel stordy i ddal cyfarpar Clwb Ieuenctid Llangain a hefyd mae system golau llwyfan wedi ei gosod, diolch i gymorth ariannol gan Gyngor Sir Gâr a Chyngor Celfyddydau Cymru yn ôl eu trefn.

Rhif Elusen Gofrestredig: 503503

Gwefan: www.llangain.org.uk

Y Neuadd Goffa, Llangain, Sir Gaerfyrddin, SA33 5AE


Nodweddion

Neuadd fodern ac eang gyda naws gyfoes. Mae gan y brif neuadd ddwy fynedfa drws dwbl yn y ffrynt a’r cefn â digonedd o oleuni naturiol, gyda llenni tebyg i’r llwyfan a’r ffenestri.
Mae yna stribedi gwres trydan yn y nenfwd.

Ar y llwyfan, ac wrth gefn y llwyfan, mae yna fan eang a delfrydol i gynnal dramâu a chynyrchiadau theatr, gyda chyfarpar golau a sain, gan gynnwys microffonau. Mae yna ddarllenfa bren ar gael (mae'n cael ei chadw yn y stordy bach i’r chwith o’r llwyfan cefn).  
Lleolir cegin o faint canolig a’r stordy i’r chwith i’r llwyfan ac mae yna ddigon o le i baratoi, a chyfarpar fel ffwrn trydan, oergell a ffwrnficro ayb.    

Ystafelloedd TG a Phwyllgor i gefn y neuadd gyda bwrdd snwcer yn yr ystafell olaf.

Prisiau Llogi:

  • Prif Neuadd £10 yr awr;
  • Ystafell Bwyllgor £3.50 yr awr;
  • Ardal y Llwyfan £3.50 yr awr;
  • Achlysur £60 (£80 gyda bar). 

Uchafswm:  210


Cyswllt

Glenys Altman 01267 241957   Tel:



Oriel




Cyfarwyddiadau

Cymerwch y B4312 o Gaerfyrddin. Gyrrwch 4 milltir I LANGAIN (Croesffordd Smyrna); trowch i’r chwith a gyrrwch i fyny’r bryn heibio i Bantydderwen a Choedlan Coedmor. Mae’r Neuadd Goffa gyferbyn ag Ysgol Llangain.


Cyfleusterau

  • ParkingParking
  • 30 Disabled Spaces30 Disabled Spaces
  • Wheelchair Access to frontWheelchair Access to front
  • WCWC
  • Accessible WCAccessible WC
  • Level EntranceLevel Entrance
  • Ramp (up)Ramp (up)