Mae pentref Abergwili ar gyrion tref Caerfyrddin ac mae yna fynediad da i'r A40 a'r M4.
Yn hanesyddol, dyma gartref Esgobion Tyddewi a, bellach, mae'n ganolbwynt gweinyddol i esgobaeth Tyddewi, sy'n cynnwys yr hen sir Ddyfed.
Adeiladwyd y neuadd gan y gymuned ym 1928. Cymysgwyd a rhoddwyd pob panel wal concrid gan deuluoedd unigol. Ar hyn o bryd, rydym yn ystyried adeiladu neuadd newydd ar safle newydd, gyda'r cyfleusterau diweddaraf.
Gallwn gynnig lle i 200 ar eu heistedd, ac mae yna fynediad i'r anabl.
Cyfeiriad Neuadd: Ismyrddin, Abergwili SA31 2JQ.
Prif ardal fawr gyda llwyfan a rhagystafell a chegin llwyr-weithredol, gyda chyfleusterau toiledau gwrywaidd a benywaidd.
Gwresogir trwy wresogyddion halogen uwchben, ac mae yna wresogyddion storio ar gael ar gyfer defnyddwyr hirdymor.
Nid oes offer TG.
Cymerwch yr A40 tua'r dwyrain allan o Gaerfyrddin. Trowch oddi ar y stryd fawr yn Abergwili gyferbyn â thafarn y Black Ox ac mae'r Neuadd ymhen 100m ar y chwith.