

Pentref bach yw Capel Dewi, bum milltir o Gaerfyrddin, ar ffordd y B4300 i Lanarthne a Llandeilo.
Mae'r pentref yn gymuned ffermio, ac mae wedi tyfu i fod yn bentref i gymudwyr, i bobl sy'n gweithio yng Nghaerfyrddin a'r ardal gyfagos.
Yr Hen Ysgol, Capel Dewi, Caerfyrddin, SA32 8AD
Prynwyd Yr Hen Ysgol gan Gyngor Sir Gâr ym 1992, i'w defnyddio fel man cyfarfod ar gyfer y gymuned. Mae'n cael ei defnyddio'n rheolaidd gan y Ffermwyr Ifanc, ac unwaith y mis, mae'r Gymuned yn cynnal boreau coffi, a chyfarfodydd pwyllgor.
Ychwanegwyd cwrt tennis ac ardal chwarae i blant yn 2001, gyda chymorth grantiau. Yn 2009, codwyd adeilad newydd fel gweithdy / storfa, a chaiff ei ddefnyddio gan y Ffermwyr Ifanc, ac ar gyfer bowlio mat byr.
Llogi'r neuadd: £40 am hanner diwrnod, neu £80 y dydd.
Mae'n gallu dal uchafswm o 80 o bobl.
25 Lle Parcio
Mynediad i'r anabl yn y blaen a'r cefn.
Rhif elusen gofrestredig. 1199361
Mae gan y neuadd gegin, toiledau a seddi ar gyfer 80 o bobl. Mae'n cael ei gwresogi â gwresogyddion storio, a gwresogyddion trydan atodol. Bydd gan y Gyfadeilad wresogyddion storio cyn hir, ac mae ganddo doiled.
O Gaerfyrddin, cymerwch y B4300 o Langynnwr tuag at Lanarthne. Mae'r neuadd 4 milltir o Langynnwr, yng nghanol y pentref ar ochr dde'r heol.