Cymdeithas Les Carwe a'r Cylch, Carwe

Cymdeithas Les Carwe a'r Cylch, Carwe

Pentref bach yw Carwe gyda phoblogaeth o tua 600.

Rhagwelir y bydd y boblogaeth yn dyblu dros y degawd nesaf gyda’r datblygiad tai ar dir hen ffermydd Dyffryn Aur a Maesgwilym

Mae Carwe yn enwog am y nifer o lofeydd oedd yn yr ardal dros y canrifoedd, ac yna yn ddiweddarach gyda sawl safle glo brig yno. Ers gorffen cloddio am lo yng nghanol y 1990au mae’r pentref wedi ei weddnewid gyda datblygiadau newydd cyffrous yn dod i’r pentref - Cwrs Golff Glyn Abbey, Cwrs Rasio Ceffylau Ffoslas, ail godi neuadd y pentref a gwelliannau niferus i barc y pentref

Yn 1766 codwyd Camlas Kymer gan Islamabad Kingdom Brunel ar ochor rheilffordd y Gwendraeth ym Mhontnewydd.

Bu’r rheilffordd yn ddolen gyswllt i’r trigolion lleol hyd at 1953 pan gaewyd y gwasanaeth i’r cyhoedd. Serch hynny cludwyd glo o’r wahanol lofeydd yng Nghwm Gwendraeth lawr i’r olchfa yng Nghoed Bach. Daeth hynny i ben yng nghanol y 1990au. Yn dilyn hynny darparwyd Llwybr Treftadaeth o Bont-iets I Bontnewydd ar ochor y rheilffordd a death y llwybr hwn yn ddolen gyswllt rhwng nifer  o lwybrau cyhoeddus sydd yn croesi'r cwrs golff

Datblygwyd y parc chwarae cyntaf o dan Gymdeithas Les y Glowyr yn y Deyrnas Unedig yng Ngharwe, a chyda cymorth grantiau lleol ac Ewropeaidd diweddar llwyddwyd i greu nifer o ddeunydd chwarae newydd i’r plant, llefydd eistedd, safle aml ddefnydd gemau a chanolfan Sonig i’r Ieuenctid. Yn ogystal â hynny mae maes peldroed a chriced yma a chlwb at ddefnydd y pentrefwyr 

Y Neuadd

Mae’r neuadd yn adeilad ar ben ei hunan a leolir yng nghanol y pentref.

Codwyd y neuadd gyntaf tua 1970 ac adnewyddwyd yr adeilad yn llwyr yn y flwyddyn 2000 / 2001

Mae’r adeilad yn medru eistedd 200 o bobol gyda seddau a byrddau  modern cyffyrddus.

Gellir parcio ceir tu fas y neuadd ei hunan a hefyd ym maes parcio Clwb Cymdeithasol y pentref a leolir gerllaw'r neuadd

Rhif cofrestredig elusennol y neuadd yw :-  524016

Gellir hurio'r neuadd am £10-00 yr awr.

Gellir hurio'r lle chwarae aml bwrpas yn y parc gerllaw am £10-00 y sesiwn

Cindy Hunt 
Carway Hall
Carway
Kidwelly
Carmarthenshire
SA17 4HE
07866671648

Nodweddion

  • Neuadd sy’n eistedd 200
  • Llwyfan Mawr
  • Projector a Sgrin Fawr
  • Cegin Fodern
  • Offer Tch a Gwy
  • Ystafell gyfarfodydd
  • Swyddfa
  • Gwres Canolog Olew
  • Toiledau
  • Toiledau i’r anabl

Cyswllt

Cindy Hunt - 07866671648   Tel:

Oriel

Cyfarwyddiadau

O Lanelli dewch i Drimsaran ar y B4308 yna trowch i’r dde ar y cylchdro bach yn y pentref hwnnw a chymerwch y B4317 i gyrraedd Carwe 11/2 milltir o Drimsaran

Mae’r neuadd ar yr ochr chwith yng nghanol y pentref

O Gaerfyrddin cymerwch yr A484 i Gwmffrwd a chymerwch y B4309 yng Nghwmffrwd ac ewch am Bont-iets. Wedi croesi’r rheilffordd ym Mhont-iets trowch i’r dde a dilynwch yr hewl am 11/2 i gyrraedd Carwe

Cyfleusterau

  • ParkingParking
  • 30 Disabled Spaces30 Disabled Spaces
  • Wheelchair Access to frontWheelchair Access to front
  • WCWC
  • Accessible WCAccessible WC
  • Level EntranceLevel Entrance
  • Induction LoopInduction Loop