Tarddiad yr enw Glan-y-fferi yw'r fferi a deithiai ar draws aber yr Afon Tywi. Roedd ar daith y pererinion canoloesol i Eglwys Gadeiriol Tyddewi.
Mae o fewn cyrraedd hwylus i Gaerfyrddin a Llanelli, ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd, ac, o ganlyniad, mae'n lle poblogaidd i deuluoedd ifanc a phobl sydd wedi ymddeol fel ei gilydd. Mae yma ysgol gynradd, swyddfa bost, tri lle addoli, tafarn, gwesty, clwb chwaraeon a chlwb hwylio.
Adeiladwyd y neuadd ym 1925 gan ŵr busnes lleol, fel menter fasnachol. Yn wreiddiol, adeilad dau lawr ydoedd, gyda'r perchennog a'r teulu yn byw dros y siop. Hefyd, i fyny'r grisiau, roedd neuadd filiards, ac ar y llawr gwaelod roedd siop / caffi, cegin y teulu a neuadd fawr. Ym 1948, daeth yn eiddo i'r cyhoedd. Erbyn 1965 roedd yr eiddo mewn cyflwr gwael. Oherwydd cyfyngiadau ariannol, roedd yn rhaid aberthu peth o'r gofod a chael gwared ar y llawr uchaf.
Prisiau Llogi:
Prif Neuadd £7.50 yr awr
Parti Plant £20
Parti Oedolion £40
Ystafelloedd Cyfarfod £5 yr awr
Teras y Neuadd, Glan-y-fferi, CAERFYRDDIN SA17 5SN
Elusen Gofrestredig 523891
Mae'r neuadd wedi ei lleoli ar y brif stryd trwy Glan-y-fferi, i'r de o Orsaf y Rheilffordd