Bethlehem - Yr Hen Ysgol, Bethlehem

Bethlehem - Yr Hen Ysgol, Bethlehem

Fe fu cymuned ffyniannus ym mhentref Bethlehem, Sir Gaerfyrddin, ers Oes y Cerrig. Mae Bethlehem yn gorwedd ar lannau deheuol yr afon Tywi, mewn tirwedd sydd wedi ei thrwytho yn ei hanes hynafol a'i chwedloniaeth.

Mae'n ardal sy'n swyno ac yn cyfareddu ac mae iddi ymdeimlad o hanes sy'n mynd yn ôl at oes y saint, y Rhufeiniaid a phobloedd gynharaf Ewrop. Dominyddir yr ardal gan fryngaer Oes Haearn enfawr Garn Goch, sydd â rhagfuriau cerrig serth sy'n gorchuddio'r bryn creigiog. Mae gan y pentref dystiolaeth o aneddiadau sy'n dyddio'n ôl dros 6000 o flynyddoedd.




Y Neuadd

Adeiladwyd Yr Hen Ysgol ym 1864, ac fe'i caewyd yn 2000. Ar ei hanterth, yn y 1880au, roedd yna 76 o blant mewn dwy ystafell ddosbarth, ond erbyn y diwedd dim ond 6 oedd yn yr ysgol. Ffurfiwyd cymdeithas gymunedol yn 2000 ac yn 2004 prynwyd yr adeilad oddi wrth y cyngor.  Adnewyddwyd Yr Hen Ysgol gyda Grant gan y Loteri Fawr yn 2008-9.

Mae yna gyfleusterau da yn y gegin ac mae'r holl gyfleusterau yn hygyrch. Ar gyfer defnyddwyr hirdymor, mae yna gypyrddau storio y gellir eu cloi. Mae yna nifer o fannau parcio ger y neuadd. Mae yna fynediad i gadeiriau olwyn yn y blaen ac yn y cefn.

Rhif elusen 1119470. Yr Hen Ysgol, Bethlehem, Llandeilo SA19 6YH,

Gwefan: http://bethlehemhall.wales/
https://www.facebook.com/bethlehemcymru/


Nodweddion

  • Mae gan yr adeilad neuadd ac ystafell gyfarfod yn ogystal â chegin fawr a thoiledau gyda chyfleusterau ar gyfer pobl anabl a chyfleusterau newid cewynnau.
  • Caiff ei wresogi gan wres canolog, ac mae ganddo banelau solar a ddarparwyd gan Asiantaeth Ynni Sir Gâr.
  • Dyma ddimensiynau'r neuadd: 8.4m x 5.2m (27.5tr x 17tr).
  • Yn y gegin, mae yna amrywiaeth dda o gyfarpar â'r holl offer coginio a pharatoi arferol.
  • Mae yna ddau gae chwarae, un y gellir ei ddefnyddio ar gyfer parcio os oes angen.

Cyswllt

The Hall Manager   Tel:





Cyfarwyddiadau

Y cod post ar gyfer yr Hen Ysgol yw SA19 6YH. Mae wedi ei lleoli ar yr heol o Ffairfach i Langadog, tua 4 milltir o Ffairfach a 3 milltir o Langadog. Mae yna arwyddion tuag at Fethlehem ar y gylchfan fach yn Ffairfach (A483), ac ychydig tu allan i Langadog (A4069) yn Felindre.

Mae'r Hen Ysgol wedi ei lleoli ym mhentref Bethlehem, ar ben y bryn ar y gyffordd gyda'r ffordd i Garn Goch (edrychwch am y Swyddfa Bost sy'n defnyddio ystafell yn yr adeilad).


Cyfleusterau

  • ParkingParking
  • Wheelchair Access to frontWheelchair Access to front
  • WCWC
  • Accessible WCAccessible WC
  • Level EntranceLevel Entrance
  • Induction LoopInduction Loop