Llangennech - Neuadd Gymunedol, Llangennech

Llangennech - Neuadd Gymunedol, Llangennech

Mae pentref Llangennech yn ardal Llanelli, Sir Gaerfyrddin, tua 5 milltir o'r M4. Caiff ei lywodraethu gan Gyngor Sir Gâr a Chyngor Gwledig Llanelli. Mae o fewn etholaeth seneddol Llanelli. Llangennech yw enw'r ward etholiadol sydd â'r un ffiniau a'r pentref hefyd ac mae ganddo'i gyngor cymuned ei hun.

Roedd yn arfer bod yn gymuned lofaol gyda sawl pwll glo lleol yn cloddio am lo rhydd. Mae yna draddoddiad Llafur cryf yn y pentref hefyd, o ganlyniad i niferoedd y glowyr. Ar un adeg, roedd gan y Llynges Brydeinig ddepo mawr yn y pentref, a gaewyd adeg ailstrwythuro'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae yna dîm rygbi'r undeb cryf yn Llangennech hefyd, sef Llangennech RFC, sy'n bwydo llawer o chwaraewyr i dîm rygbi Llanelli ac yna ymlaen at dîm rygbi'r undeb rhanbarthol y Scarlets.

Gwasanaethir y dref gan orsaf rheilffordd Llangennech ar Linell Calon Cymru, gyda threnau i Abertawe i'r de ac i'r Amwythig i'r gogledd.




Y Neuadd

Mae'r Ganolfan wedi ei lleoli'n gyfleus yng nghanol y pentref. Mae wedi ei gosod yn ôl oddi ar Heol Hendre, drws nesaf i Dafarn y Bridge. Llwyddodd ei lleoliad gwledig i ysbrydoli aelodau i sefydlu prosiect Gardd Gymunedol. Mae'r gwaith eisoes wedi dechrau gyda disgyblion o'r ysgolion lleol a'r pentrefwyr yn plannu bylbiau.

Mae gan y Ganolfan lefydd parcio i 38 o geir, a gofodau ychwanegol i'r anabl i barcio neu i gael eu gollwng tu allan i'r Ganolfan. Mae mynediad trwy'r adeilad i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ac mae yna gyfleusterau toiledau i'r anabl.

Yn ogystal â benthyg llyfrau, mae'r Llyfrgell hefyd yn benthyg ffilmiau ar DVD ac mae yna ystafell gyfrifiaduron, gyda saith cyfrifiadur at ddefnydd y cyhoedd. Mae yna fynediad rhad ac am ddim i'r rhyngrwyd a chyrsiau ar-lein i'w dilyn - sy'n ddelfrydol i ddechreuwyr.

Gellir hurio ystafelloedd yn y neuadd. Mae'r ystafell fwyaf, y Brif Neuadd (Neuadd Beasley), yn gallu dal 200 a mwy o bobl ar eu heistedd, ac mae'n addas ar gyfer digwyddiadau, partïon, cyngherddau a gweithgareddau grwpiau amrywiol, er enghraifft cadw'n heini. Mae'r llawr sbring arbennig yn berffaith ar gyfer pob math o ddawnsio ac mae'n ddigon mawr ar gyfer bowls mat byr ayb., rhywbeth yr ydym yn gobeithio ei drefnu cyn hir. Mae gan y neuadd System Sain a dolen sain ar gyfer defnyddwyr cymhorthion clyw. Mae yna lwyfan mawr gyda dwy ystafell newid.

Mae yna ddwy ystafell sy'n addas ar gyfer cyfarfodydd, cyrsiau hyfforddiant ayb. Mae yna le i hyd at 20 o bobl eistedd yn gyffyrddus yn ystafell gyfarfod 1 (Cennech) ac mae yna le i tua tri deg yn Ystafell Gyfarfod 2 (Morlais).

Mae'r ddwy ystafell newid, ger y brif neuadd, hefyd yn ddigon mawr i'w defnyddio i gynnal cyfarfodydd bach o hyd at ddeg person, neu gellir eu defnyddio ar gyfer sesiynau ffisiotherapi neu ymlacio ayb. Mae gan bob ystafell newid ei thoiled ei hun.

Mae'r gegin, sydd ag amrywiaeth dda o gyfarpar, yn ganolog ac yn hwylus i wasanaethu'r rhan fwyaf o'r ystafelloedd.

Gwirfoddolwyr sy'n rhedeg y caffi ac mae ar agor bob bore (ac eithrio Dydd Sul) rhwng 9:00y.b. ac 1:00yp. Mae wedi profi'n boblogaidd iawn gyda chwsmeriaid y llyfrgell a'r rheiny sy'n galw i mewn i gael paned a chlonc.

Gwefan: www.llancentre.com

Canolfan Gymunedol Llangennech, Cefn Heol Hendre, Llangennech, Llanelli, SA14 8TH


Nodweddion

Taflunydd, sgrin fawr, byrddau gwyn sefydlog a byrddau gwyn sy'n troi, piano trydan, system sain broffesiynol, dolen sain, llwyfan fawr, dwy ystafell newid, dwy storfa, cegin, llyfrgell, ystafell TG.


Cyswllt

Alun James 07807 807353    Tel:



Oriel




Cyfarwyddiadau

O Gaerfyrddin, dilynwch yr arwyddion ar hyd yr A484 hyd nes i chi gyrraedd Llanelli. O Lanelli, dilynwch yr A484 tuag at Abertawe. Ymunwch â'r A4138 tuag at Pemberton ac yna ymunwch â'r B4297 a theithio ar hyd Heol y Gelli trwy'r Bryn hyd nes i chi gyrraedd Llangennech. Mae'r ganolfan ar y chwith yng nghanol y pentref yn ôl oddi ar Heol Hendre.

 


Cyfleusterau

  • ParkingParking
  • 38 Disabled Spaces38 Disabled Spaces
  • Wheelchair Access to frontWheelchair Access to front
  • WCWC
  • Accessible WCAccessible WC
  • Level EntranceLevel Entrance
  • Induction LoopInduction Loop