Lleolir Llanllwni ar y ffordd rhwng Llambed, 10 milltir i’r gogledd, a Chaerfyrddin, tua 12 milltir i’r de. Mae Llanllwni'n ardal wledig a’r plwyf yn ymestyn am ddwy filltir gyda tua 600 o gartrefi. Mae’r Afon Teifi yn llifo drwy’r plwyf ac yn ffurfio ffin orllewinol Sir Gâr a Cheredigion. Yn ogystal a’r Ysgol Gynradd, Eglwys Llanllwni a Chylch Meithrin Llanllwni, ceir amrywiaeth o glybiau a chymdeithasau yn yr ardal, yn amrywio o Glwb Gwawr, CFfI Llanllwni, Undeb y Mamau, Pwyllgor yr Henoed a Phwyllgor y Maes Chwarae. Trefnir amrywiaeth o weithgaredd sydd yn gloywi bywyd cymdeithasol ein hardal. Mae’r rhan fwyaf o’r gweithgarwch hwn yn digwydd yn Neuadd Gymunedol Eglwys Llanllwni.
Mae Neuadd Gymunedol Eglwys Llanllwni newydd gael ei hadnewyddu, gyda mynediad addas a chyfleusterau ar gyfer pobl anabl. Gwelir golygfeydd godidog o ddyffryn Teifi o'r adeilad, ac felly mae'n lleoliad hamddenol ar gyfer cyfarfodydd a hyfforddiant o bob math.
Ar gael i’w llogi
Diwrnod Cyfan – £40.00
Hanner Diwrnod - £25.00
Sesiwn Awr £12
Digwyddiad Codi Arian £15
Neuadd Gymunedol Eglwys Llanllwni, Llanllwni, Pencader SA39 9DR
Cysylltwch â Meinir Evans 01559 395 699 neu Mike Harrington 01559 395 342
Mae gan y neuadd gyfarpar technoleg, sef taflunydd aml bwrpas, system sain, chwaraewr cryno ddisgiau a gliniadur. Mae yna gegin bwrpasol, ac yn y flwyddyn newydd bwriedir rhoi llinell ffôn a gwefan i mewn. Gwresogir y neuadd gan wres darfudol sydd yn cynhesu’n gyflym. Mae yna wresogydd dwr sydd yn medru twymo dwr ar gyfer 80 dishgled o fewn 20 munud.
Mae yna le i barcio 50 o geir.