Mae pentref Llanfihangel-ar-Arth yn eistedd ar y ffîn rhwng Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, yn Nyffryn Teifi. Mae'n benthyg ei enw o enw eglwys y plwyf, Sant Mihangel.
Neuadd yr Ysgol oedd calon y pentre. Yma, bu plant y pentre’n tyfu i fyny gyda’i gilydd ac yn cael eu haddysg – a’r cyfan yn Gymraeg. Mae’r awdurdod lleol wedi cau ein hysgol – fel llawer o wasanaethau eraill mewn ardaloedd gwledig. Ond mae pobl Llanfihangel-ar-Arth wedi parhau i ddefnyddio’r adeilad er mwyn sicrhau bod ein cymuned yn fyw ac yn llewyrchus. ‘Rydyn ni’n eich croesawu i ddefnyddio’r ganolfan hon sydd yn ganolbwynt i'n pentref.
Costau Llogi'r neuadd
Dydd £50.00
Bore, prynhawn neu nos yn unig: £20.00
(Defnydd y gegin yn £5 ychwanegol)
Costau llogi un o'r 2 stafell fach:
Dydd £20.00
Bore, prynhawn neu nos yn unig: £10.00
(Defnydd y gegin yn £5 ychwanegol)
Cyswllt
Meinir Ffransis 01559 384 378
Neuadd Yr Ysgol, Llanfihangel ar Arth, Pencader SA39 9JH
Mae Neuadd yr Ysgol yn cynnwys un dosbarth mawr sydd yn gallu lleoli perfformiadau a gweithgareddau megis dosbarthiadau dawnsio disgo a chadw’n heini. Mae dosbarth lai hefyd ar gael ar gyfer cyrsiau a chyfarfodydd. Mae gan y neuadd gyfarpar technoleg, sef taflunydd aml bwrpas, system sain, chwaraewr cryno ddisgiau a 5 cyfrifiadur. Mae yna gegin bwrpasol sy'n cynnwys oergell, ffwrn fechan a phopty ping.
Gwresogir y Neuadd can system wres canolog.
Mae lle i barcio 26 car.
Dilynwch yr A485 o Gaerfyrddin i Lambed. Trowch tuag at Bencader ar yr A4459. Trowch i’r dde wrth groesffordd tafarn y Cross Inn yn Llanfihangel ar Arth. Yna, trowch ar y chwith i gyrraedd Neuadd yr Ysgol sydd wedi ei lleoli ar y dde.