Llandeilo - Neuadd Ddinesig Llandeilo, Llandeilo

Llandeilo - Neuadd Ddinesig Llandeilo, Llandeilo

Llandeilo oedd prifddinas Cymru yn yr Oesoedd Canol, ac mae wedi'i hamgylchynu â phrydferthwch Dyffryn Tywi. Gyda'i siopau bwtîc chwaethus, teithiau cerdded hardd a chestyll hanesyddol, mae wedi dod yn drysor yng nghoron Sir Gaerfyrddin.




Y Neuadd

Heol Cilgant, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin SA19 6HN

Adeiladwyd y Neuadd Ddinesig cyn 1900 fel Arfdy a Neuadd y Dril, ac mae wedi gweld llawer o newidiadau. Mae ar fin cael gweddnewidiad sylweddol i lawer o'i chyfleusterau, gan gynnwys toiledau i'r anabl a system sain a goleuadau newydd.

Mae'r brif neuadd yn dal 200 ar eu heistedd, ac mae'r oriel fach i fyny'r grisiau yn dal 24.

Mae maes parcio cyhoeddus ger y neuadd.

Mae yna fynediad i'r Neuadd i gadeiriau olwyn, trwy drefniant ymlaen llaw, a bydd yna doiled hygyrch o fis Chwefror 2010.


Nodweddion

Mae gan y neuadd lwyfan da gydag ystafelloedd gwisgo cyfagos ac, o 2010, fe fydd ganddi system sain newydd, chwaraewr CD a goleuadau. Bydd cyfrifiadur â band eang ar gael hefyd. Bydd y Neuadd hefyd â thaflunydd a sgrin ddisgyn-i-lawr. Mae yna wres yn y neuadd a'r gegin, ac mae yna gyfleusterau arlwyo da iawn yn y gegin, gyda bain-marie chwe adran, popty mawr, microdon ac oergell arlwyo.

Mae gan yr Oriel ei chyfleusterau gwneud te ei hun, a'i thoiledau ei hun, ac felly mae'n lle delfrydol i gyfarfodydd ac arddangosfeydd bach.


Cyswllt

Raymond Ibbotson   Tel:01558 822001  Email: raymondibbotson@gmail.com



Oriel




Cyfarwyddiadau

Os ydych yn cyrraedd Llandeilo o ochr y bont, ewch drwy'r dref at groesffordd CK's a throwch i'r dde - mae'r neuadd tua 200 llath i lawr ar yr ochr chwith.

O gylchfan yr A40, ewch ymlaen drwy'r dref i groesffordd CK's a throwch i'r chwith, mae'r neuadd 200 llath i lawr ar y chwith.


Cyfleusterau

  • ParkingParking
  • Wheelchair Access to frontWheelchair Access to front
  • WCWC
  • Level EntranceLevel Entrance