Mae Rhydaman yn dref fach sydd ag amrywiaeth dda o siopau, ac mae ganddi gysylltiadau trafnidiaeth ardderchog.
Mae gennym neuadd y gellir ei defnyddio gyda seddau neu heb seddau. Mae yna le i 100 ar eu heistedd.
Byddwn yn codi £7 yr awr, er mae modd trafod cyfraddau dyddiol. www.ammanfordchurch.com
Eglwys Efengylaidd Rhydaman, Stryd y Gwynt, Rhydaman, SA18 3DR
Mae gennym system sain llwyr-weithredol gyda rig goleuadau bach a thafluniad digidol.
Caiff y neuadd ei chynhesu'n dda.
Mae yna gyfleusterau i wneud diodydd poeth.
O Gaerfyrddin, ewch tua'r de-ddwyrain ar yr A48 tuag at Cross Hands. Cadwch ar yr A48 ar ôl mynd heibio i Cross Hands nes i chi gyrraedd gwasanaethau Pont Abraham. Yma, bydd angen i chi ymuno â'r A483. Ewch i'r gogledd-ddwyrain tuag at Rydaman. Mae'r neuadd wedi ei lleoli rhwng 2 set o oleuadau traffig yng nghanol Rhydaman.
O gyfeiriad Llanelli, ewch tua'r gogledd-ddwyrain allan o'r dref gan ddilyn yr arwyddion ar gyfer yr M4. Ymunwch â'r M4 ac ewch tua'r gogledd tuag at wasanaethau Pont Abraham. Pan fyddwch yn cyrraedd y gwasanaethau bydd angen i chi ymuno â'r A483 a pharhewch tua'r gogledd-ddwyrain tuag at Rydaman. Mae'r neuadd wedi ei lleoli rhwng 2 set o oleuadau traffig yng nghanol Rhydaman.