Lleolir y pentref yng nghysgod bryngaer o'r Oes Haearn. Mae castell mwnt a beili Normanaidd yn agos at yr eglwys. Mae plac sy’n cofnodi geiriau'r Hen Ŵr o Bencader ar y brif ffordd drwy’r pentref.
Mae’r neuadd ychydig dros gan mlwydd oed. Mae yma gadeiriau i 50 o bobl ond mae yma le i fwy, yn ogystal â 9 bwrdd gyda lle i 6 o bobl ar bob un. Y tâl yw £6 am 2 awr.
Mrs Beti Jones - 01559 384424
St.Mary's Church Hall, Pencader, Carmarthen, SA39 9ET
Mae’n cynnwys cegin a thoiledau i ddynion a merched ar wahân. Mae gwres yn dod o wresogyddion trydanol uwchben.
50 llath ar yr ochr dde ar hyd Heol Gwyddgrug, o ganol Pencader