Ar anterth y pyllau glo, roedd Rhydaman yn ganolfan siopa ffyniannus.
Ym 1995, caewyd Stryd y Cei i geir ac ar un pen saif cofgolofn gydag enwau'r holl byllau lleol a'r logos sy'n ymwneud â mwyngloddio wedi eu cerfio arni. Mae yna farchnad awyr agored wythnosol yn yr ardal hon hefyd.
Yn ffodus, mae archfarchnadoedd Co-op, Iceland, Tesco a Lidl wedi eu lleoli o fewn y dref ei hun ac nid ydynt yn ddatblygiadau tu allan i'r dref. Mae yna gynlluniau parhaus i adfywio'r dref.
Adeiladwyd y neuadd yn y 1960au gydag arian a gasglwyd gan bensiynwyr Rhydaman, ar safle sy'n cael ei brydlesu oddi wrth Gyngor Sir Gâr.
Mae yna le i 150 o bobl eistedd yn gyffyrddus pan gaiff ei defnyddio ar gyfer adloniant, darlithoedd ac ati, ond tua 100 os ydynt yn eistedd o amgylch byrddau.
Mae'r costau llogi yn hyblyg ac yn cael eu codi fesul sesiwn yn hytrach na fesul awr, gyda chonsesiynau i sefydliadau elusennol.
70 mannau parcio
Neuadd y Pensiynwyr Rhydaman, Stryd y Cei, Rhydaman, SA18 3EN
Ar hyn o bryd, mae'r neuadd yn cael cegin newydd gyda'r holl gyfleusterau diweddaraf.
Mae yna system sain a dolen sain.
Mae boeler nwy yn cynhesu'r gwres canolog ac mae yna wresogyddion trydan uwchben hefyd
Mae yna lwyfan o faint rhesymol hefyd.
Mae gan Rydaman ddwy set o oleuadau traffig.
Wrth fynd i Rydaman o draffordd yr M4 - trowch i'r dde wrth y goleuadau traffig cyntaf, i'r chwith ar y gylchfan gyntaf, ac mae'r neuadd ychydig i'r dde ar ôl yr ail gylchfan.
Wrth deithio o gyfeiriad Glanaman - ewch yn syth drwy'r goleuadau traffig cyntaf, i'r chwith wrth yr ail set o oleuadau traffig, i'r chwith wrth y gylchfan gyntaf - ac mae'r neuadd ar y dde wrth yr ail gylchfan.
Wrth deithio o gyfeiriad Llandeilo - trowch i'r dde wrth y goleuadau traffig cyntaf, i'r chwith wrth yr ail set o oleuadau traffig, i'r chwith wrth y gylchfan gyntaf - ac mae'r neuadd ar y dde wrth yr ail gylchfan.